Ciw-restr

Y Canpunt

Llinellau gan Mrs Davies (Cyfanswm: 162)

 
(1, 0) 285 O, James, so you've brought your friend?
 
(1, 0) 290 How do you do, Miss Williams?
 
(1, 0) 294 I'm glad you've made yourselves at home.
(1, 0) 295 Adelina, take Miss Williams's hat upstairs.
(1, 0) 296 There's nothing so untidy as clothes lying about the drawing room.
 
(1, 0) 300 Please sit down, Miss Jenkins.
 
(1, 0) 304 Oh, yes, Williams
 
(1, 0) 306 Have you visited this neighbourhood before, Miss Williams?
 
(1, 0) 314 Dim yn siarad Sysneg?
(1, 0) 315 Dyna beth od!
(1, 0) 316 Fel arall mae hi 'da Adelina.
 
(1, 0) 318 Mae ofan arna i bod hi wedi anghofio rhan fwya o'i Chymraeg o ar pan a'th hi i'r private school—The Ferns, Porthcawl.
(1, 0) 319 Odd Miss Emmeline Dalrymple Jones byth yn gadel i'r merched siarad Cymraeg.
(1, 0) 320 Odd hi'n meddwl fod Sysneg yn fwy genteel.
 
(1, 0) 322 Ydych chi wedi bod y ffordd hyn o'r blan, Miss Williams?
 
(1, 0) 330 Felly wir?
 
(1, 0) 337 A ydych chi'n paento, Miss Williams?
 
(1, 0) 341 Mae Adelina yn paento yn spendid.
 
(1, 0) 346 Meddwl am bictiwrs yr oen ni.
(1, 0) 347 Baentodd Adelina y pictiwrs hyn i gyd mewn mish.
 
(1, 0) 353 Dyna bainting o Aber Falls.
(1, 0) 354 Baintodd Adelina hwnna pan oedd hi lan yn North Wales yn aros gyda Miss Rowlands, merch Mr.Rowlands, J.P., ffrynd mawr i Lloyd George.
(1, 0) 355 Miss Rowlands odd i ffrynd mwya hi yn y Ferns.
(1, 0) 356 Mae 'da nhw olwg fawr ar Adelina yng nghartre Miss Rowlands.
(1, 0) 357 O, dyna bobl genteel, neis ŷ nhw.
 
(1, 0) 359 A thri motor car!
 
(1, 0) 366 9s 11d yn wir!
(1, 0) 367 Halodd Adelina un fel 'na i ryw Fazaar, a 'rodd wedi i farco yn bum punt, a 'rodd Mr.
(1, 0) 368 Sam Price yn gweud fod hynny'n lawer rhy chep, i fod yn werth degpunt.
 
(1, 0) 371 Naddo.
(1, 0) 372 'Dyw e ddim yn moyn pictiwrs eto.
 
(1, 0) 375 Ie, ie.
(1, 0) 376 Mae e'n dod yma mor fynych, mae e fel mab i fi.
(1, 0) 377 Wn i ddim beth fydde ni neud hebddo fe.
(1, 0) 378 Mae'n help mawr i fi gyda materion busnes.
(1, 0) 379 Ych chi'n gwbod, mewn lle fel hyn mae dynon yn meddwl bod gwidw dlawd fel fi wedi i gwneud o arian.
(1, 0) 380 Gofyn, gofyn, gofyn yw hi o hyd, a rhyw gasgliad byth a hefyd.
(1, 0) 381 Rodd Richard druan lawer rhy garedig, a mae pobl yn dishgwl i fi gadw mlan yr un ffordd.
(1, 0) 382 Y dydd o'r blan, ofynson i fi roi pumpunt at Gapel Siloh, a wedes i wrthyn nhw wir nag odd hi ddim mor hawdd i ddodi 'ch law ar bumpunt ag oeddyn nhw yn meddwl.
(1, 0) 383 Ond fel wedes i o'r blan mae Mr. Price yn dda iawn, ag yn wastod yn folon rhoi cyngor i fi mewn materion fel hyn.
 
(1, 0) 397 Ie, mae llais beautiful 'da fe.
(1, 0) 398 Mae e ag Adelina yn fynych iawn yn canu duets mewn concerts.
(1, 0) 399 Mae i lleise nhw yn siwto i gilydd i'r dim.
(1, 0) 400 Mae Adelina yn gweud fod i lais e yn debyg iawn i lais Ben Davies, ond i fod e lawer yn well.
(1, 0) 401 Mae mwy a deimlad ynddo fe, ac i fi teimlad yw popeth.
(1, 0) 402 Dyna beth mae Adelina 'n feddwl hefyd, a mae hi'n gwbod dipyn am ganu achos fe gafodd hi y music masters gore yn y wlad pan odd hi yn y Ferns.
 
(1, 0) 404 Mae e'n dod yma heno i gal practice.
(1, 0) 405 Mae nhw'n mynd i ganu duet mewn concert cyn bo hir—
 
(1, 0) 407 —mas o Opera Italian.
(1, 0) 408 Mae e'n wastod yn ol ac ymlan yma.
(1, 0) 409 Mae ofan arna i y bydda i'n colli fy merch fach un o'r dyddie nesa yma.
 
(1, 0) 412 We—el—y
 
(1, 0) 414 Sh—sh!
 
(1, 0) 417 Druan fach, ych chi wedi blino, yn siwr.
 
(1, 0) 419 Ych chi'n gwbod, 'dyw hi ddim wedi arfer a gwaith ty.
(1, 0) 420 Ond fel ma'n digwydd, mae Blodwen, y forwyn, yn y gwely.
(1, 0) 421 Mae' i gwyneb hi wedi hwyddo.
(1, 0) 422 Wir, rw i'n meddwl withe i bod hi yn i neud e yn bwrpasol.
(1, 0) 423 Ond, dyna fe, mae nhw'i gyd fel na, yn meddwl am ddim ond am i pleser i hunen.
 
(1, 0) 425 Yn ni'n wastod yn cal yn te fel hyn nawr.
(1, 0) 426 Mae e lawer mwy genteel.
(1, 0) 427 Yn nhy y Rowlandses d'yn nhw byth yn meddwl am eistedd lawr wrth y ford i gal te.
 
(1, 0) 431 A gesoch chi'r teacakes o shop Jones?
 
(1, 0) 442 O yn wir, odi chi wedi cal rhiw job arall, achos rhaid i chi gal rhywbeth i fyw a chadw ty—a dyna 'ch mam hefyd?
 
(1, 0) 445 A, ond ŷch chi ddim yn ffindo canpunt yn tyfu ar bob draenen y dyddie yma.
(1, 0) 446 Fyse'n dda gen i allu dodi fy llaw ar ganpunt.
(1, 0) 447 Siwgr a llaeth, Miss Williams?
 
(1, 0) 459 'Rych chi lawer rhy ifanc i feddwl am briodi.
(1, 0) 460 Fyddwch wedi newid ych meddwl mhen wech mis ynghynta, a fyddwch ych doi wedi cwmpo mewn cariad a rywun arall erbyn Nadolig nesa.
 
(1, 0) 464 A! dyna beth ych chi'n feddwl nawr, ond fyddwch yn siwr o newid ych meddwl.
(1, 0) 465 Faint yw'ch oedran chi, Jim?
 
(1, 0) 468 O, lawer rhy ifanc.
(1, 0) 469 A chithe, Miss Williams?
 
(1, 0) 471 Wel, dim ond plant ych chi.
(1, 0) 472 Briodes i ddim nes own i'n naw a'r hugen, a digon cynnar hefyd.
(1, 0) 473 'Does dim syniad gyda chi beth yw cadw ty.
 
(1, 0) 475 Beth oedd hynny, Miss Williams fach?
 
(1, 0) 478 Fase'n dda gen i allu rhoi canpunt yn y Cinemas 'na, er 'dyw Mr. Price ddim yn meddwl llawer o honyn nhw fel investment, ych chi byth yn gwbod ffordd tro nhw mas.
(1, 0) 479 Beth wyddoch chi, falle fydd Diwygiad—a gobeitho bydd e, medda i, mae digon o'i ishe fe—a ble fydd eich Dai Jones chi wedyn?
 
(1, 0) 486 Adelina, Adelina; rhedwch, rhedwch i moyn clwtyn o'r gegin, a dewch a'r botel ammonia gyda chi.
 
(1, 0) 490 Carped ych tad druan a gostodd gyment iddo yn Shop Ben Evans.
(1, 0) 491 Talodd gyment a deg punt am dano, druan o hono.
 
(1, 0) 493 A 'rwi'n siwr nag wi ddim yn gwbod shwd i gal un arall a meddwl gyment o arian rwy'n gorfod dalu mas ddydd ar ol dydd.
 
(1, 0) 497 Na chawn wir, a Mr. Price yn dod yma heno, a chwbl.
(1, 0) 498 Beth wnawn ni?
 
(1, 0) 504 Na allwch.
(1, 0) 505 All neb neud dim.
(1, 0) 506 Mae wedi spwylo nawr.
(1, 0) 507 Adelina, well i chi sychu gwn Miss Williams.
 
(1, 0) 516 Ie, 'n enwedig os nag ych chi wedi arfer a manners dynon neis.
(1, 0) 517 A gymrwch chi ddishgled arall, Miss Williams.
 
(1, 0) 523 Pwy siarad?
(1, 0) 524 Fues i'n siarad a'ch mam y Nadolig dwetha?
 
(1, 0) 528 Do, ond ar yr amod y byse ni yn lico'r ferch!
 
(1, 0) 536 Llawer o bethe.
(1, 0) 537 Yn un peth, ma'n ferch i was ffarm, ac yn dod o'r lle ofnadw 'na, Cwm Llyffannod.
(1, 0) 538 All hi ddim siarad Sysneg a dall hi ddim behafio 'i hunan mewn cwmpni, a mae wedi spwylo'r carped gostodd ddeg punt i'ch Uncle Richard druan y flwyddyn cyn iddo farw.
 
(1, 0) 550 Dyna Mr. Price!
(1, 0) 551 Sefwch, sefwch!
(1, 0) 552 Pidwch a mynd nawr.
(1, 0) 553 Shteddwch lawr, shteddwch lawr.
(1, 0) 554 Adelina, rhedwch i agor y drws yn gloi.
 
(1, 0) 557 Shteddwch lawr, shteddwch lawr!
(1, 0) 558 Gewch fynd ymhen cwpl o fynude.
(1, 0) 559 Fydde'n edrych yn od os byse fe'n meddwl bod ni'n ffrio.
 
(1, 0) 567 Rwi'n falch iawn i'ch gweld chi, Mr. Price.
(1, 0) 568 Dyma fy nai, James, a Miss Williams.
(1, 0) 569 Shteddwch lawr yma ar bwys y tan.
(1, 0) 570 Mae'n oer reit heddy.
 
(1, 0) 575 Ddewch chi ddim ar bwys y tan?
(1, 0) 576 Adelina, dodwch de ffresh yn y tepot, a dewch ar teacakes nethoch chi'r bore 'ma lan.
 
(1, 0) 588 Rwi'n ffond iawn o aros yn y Gwalia yn hunan.
(1, 0) 589 Rych chi'n cwrdd a shwd bobl genteel yna.
(1, 0) 590 Pan oedd Adelina a fi yn aros yna y llynedd, rodd yna dri M.P., doi stockbroker cyfoethog iawn o Lerpwl, deg o weinidogion, a'r Rowlandses o North Wales.
(1, 0) 591 Dyna pam aethon ni yna.
(1, 0) 592 Odi chi'n nabod Mr. Noah Rowlands, J.P., Mr. Price?
 
(1, 0) 594 Wel, mae e'n adnabyddus iawn yn North Wales.
(1, 0) 595 Mae e'n ffrynd mawr i Lloyd George.
(1, 0) 596 Mae nhw'n meddwl y byd o Adelina.
(1, 0) 597 Oedd hi'n aros yna ddwy flynedd yn ol.
 
(1, 0) 599 Mae Adelina yn hir iawn.
(1, 0) 600 Chi'n gwbod, Mr. Price, mae Blodwen, y forwyn, yn y gwely a'r ddanodd.
(1, 0) 601 Mae Adelina yn gorfod paratoi'r te.
(1, 0) 602 Mae'n lwcus bod hi wedi arfer a gwaith ty.
(1, 0) 603 Mae'n werth y byd.
(1, 0) 604 Wi ddim yn gwbod beth fydde ni'n wneud hebddi.
 
(1, 0) 608 Dyma'r te.
(1, 0) 609 Adelina, powrwch ddishgled mas i Mr. Price.
 
(1, 0) 619 Fynnwch chi tea-cake, Mr. Price?
(1, 0) 620 Fe wnath Adelina y rhai hyn i hunan achos o'dd hi yn gwbod ych bod chi yn i lico nhw.
 
(1, 0) 633 Mr. Price, odi'ch te chi'n ddigon melys?
(1, 0) 634 Adelina, rhowch ragor o laeth i Mr. Price.
(1, 0) 635 Rwi'n siwr nag os dim digon yn i de fe.
 
(1, 0) 639 Gesoch chi lawer o golf?
 
(1, 0) 643 Wel, 'dos dim llawer o amser cyn y train.
 
(1, 0) 649 Mae nhw'n siwr o golli y 6-15, a dyna'r un dwetha.
 
(1, 0) 658 Shteddwch lawr, Adelina.
 
(1, 0) 672 O, ry ni'n edrych ymlan i'ch clywed chi'n canu yn y concert y mish nesa.
(1, 0) 673 Odi chi wedi dod a'ch copy gyda chi, Mr. Price?
(1, 0) 674 Mae Adelina wdi bod yn practiso bob dydd.
 
(1, 0) 676 Wel, well i chi bractiso nawr.
(1, 0) 677 Mae'r piano yn barod, a licsen i i'ch clywed chi'n fawr Mr.
(1, 0) 678 Price.
(1, 0) 679 7; SAM PRICE
(1, 0) 680 Mae arna i ofan na alla i ddim canu heno, Mrs. Davies.
(1, 0) 681 Y ffaith amdani yw, bod annwyd mawr arna'i.
 
(1, 0) 683 Wyddoch chi beth rwi wedi bod yn meddwl am ofyn i Miss Adelina os ffindith hi rwun arall i ganu gyda hi yn y concert.
(1, 0) 684 Dyna John Morgan, nawr.
(1, 0) 685 Mae e'n canu lawer yn well na fi.
(1, 0) 686 'Dwi ddim digon da i ganu gyda chi, a pheth arall, rwi'n meddwl y bydda'i bant yn Llunden ar fusnes y pryd hynny.
(1, 0) 687 Rwi'n siwr bod llais beautiful gyda chi, Mr. Price.
(1, 0) 688 Rwi'n wastod yn gweud bod e'n gwmws fel llais Ben Davies.
 
(1, 0) 738 Mae hi'n anghofio bod hi'n engaged a chi, Jim.
 
(1, 0) 746 Fydd dim llawer o amser, Mr.Price, achos mae Mari Myfanwy yn mynd i briodi fy nai, Jim, cyn bo hir.
 
(1, 0) 753 Ond falle allwn i fanagio hynny rwffordd.
 
(1, 0) 761 Ych chi'n cofio, Jim, odd ych Uncle Richard yn wastod yn meddwl rhoi start i chi mewn busnes.
(1, 0) 762 Wel, mae wedi bod yn amser caled er pan fu e farw, a choste mawr arno i.
(1, 0) 763 Ond am ych bod wedi cal cynnig mor dda, ro i y canpunt i chi nawr.
 
(1, 0) 772 Yn rhy ifanc, wir!
(1, 0) 773 Na!
(1, 0) 774 Rwi'n meddwl y dylse pawb briodi'n ifanc.
 
(1, 0) 781 Dyna!